Gildas yw enw llwyfan y canwr-gyfansoddwr o Lansannan, Arwel Lloyd. Mae'n adnabyddus fel gitarydd a chyfansoddwr gyda'r Al Lewis Band ac ers 2009 wedi bod yn cyfuno gwreiddiau gwerinol gyda dylanwadau electroneg gyda'r prosiect unigol Gildas.
Symudodd Arwel i Gaerdydd yn 2009 a dechreuodd yr antur gerddorol wrth iddo berfformio mewn nifer o nosweithiau meic agored yn y ddinas. Erbyn Haf 2010, roedd ei albwm gyntaf Nos Da wedi ei rhyddhau ac wedi derbyn clodydd nifer o adolygwyr.
Parhau wnaeth y gigio a llwyddodd i gyrraedd llwyfannau gywliau poblogaidd megis Wakestock, Swn, Maes B a Gwyl Gardd Goll cyn rhyddhau yr ail record hir Sgwennu Stori yn 2013. Daeth clod i'r albwm yn fuan wedyn wrth iddi gyrraedd i 10 Uchaf Albwms y Selar yn 2013 ac yn ymddangos ar y rhestr fer i wobrau Albwm y Flwyddyn 2014 yn Eisteddfod Llanelli.
Ar ei albwm ddiweddaraf Paid â Deud, mae Arwel yn plethu ei drefniannau gitar gyda lleisiau Greta Isaac a Miriam Isaac i greu casgliad o ganeuon pobl eraill er eu newydd wedd.
'Mae'n debyg o ailddiffinio'r term gwrnado hamddenol' Sbrigyn Ymborth